CELF CALON
est 2007
Ffotograffiaeth Celf Calon
Ffotograffiaeth Dogfennol
Rwy’n ffotograffydd â steil dogfennol sy’n cipio eiliadau naturiol ac yn creu delweddau sy’n llawn personoliaeth.
Os yr ydych chi’n gwerthfawrogi ffotograffiaeth naturiol, yna rydych chi’n bendant yn lle iawn!
Profiad
Ers dechrau fy ngyrfa fel ffotograffydd yn 2007, rwyf wedi gweithio gyda channoedd o gyplau priodasol a theuluoedd, yn ogystal a nifer o brif frandiau a chorfforaethau ledled Cymru a thu hwnt.
Y hyn sy’n fy ngwneud yn ffotograffydd pobl yw fy mod i wastad yn chwilio am y foment
honno o bersonoliaethau’n cysylltu.
Gweithio gyda mi
Dywed cleientiaid fy mod yn dawel ac eithaf cysurus o ddi-ffws, ac yn llwyddo i
fod yn anweledig wrth weithio – rhywbeth sydd, yn fy marn i, yn allweddol i mi gipio’r
adegau naturiol hynny yn ystod ein hamser gyda’n gilydd.
Bydd fy llogi fel eich ffotograffydd yn brofiad pleserus. Rwy’n hawdd wrth fynd ati, yn wych gyda phobl o bob oed a wastad yn barod am ychydig i hwyl.
Ychydig o bethau ychwanegol amdanaf i…
Rwyf wedi gweithio ym myd teledu ers dechrau fy ngyrfa. Yn ôl yn 2004, gweithiais fel dylunydd we/graffeg, yna bach o actio – fel Extra yn y cychwyn wedyn fel perfformiwr.
Nawr, fel ffotograffydd proffesiynol, pan nad wyf yn tynnu lluniau o deuluoedd neu babis bach, rwy’n gweithio gyda chynhyrchwyr teledu, gan gipio portreadau a delweddau ar gyfer amrywiaeth o raglenni dogfennol a realiti.
Pam Celf Calon?
Fel plentyn yn yr 80au, dechreuodd fy nghariad at galonnau gyda’r rhaglen blant Care Bears! Teimlaf fod calonnau’n symbolaidd o’m natur gariadus a gofalgar.
Gan fy mod yn dueddol i ddefnyddio’r gair Calon o hyd, roedd yn gwneud synnwyr i mi i’w ddefnyddio â ‘Chelf’ gan yr oedd angerdd gennyf tuag at bob math o gelfyddyd megis y celfyddydau gweledol, gan gynnwys ffotograffiaeth, ond hefyd celf amlgyfrwng a cherddoriaeth.
A dweud y gwir, fi yw cantores y band Pwdin Reis ac yn drwmio i band Cwtsh
Os oes unrhyw beth arall yr hoffech ei wybod amdanaf neu am sut rwy’n gweithio, yna cysylltwch â mi. Edrychaf ymlaen at glywed gennych!
Betsan. X
CELF CALON PHOTOGRAPHY
DOCUMENTARY-STYLE PHOTOGRAPHY
I’m a documentary-style photographer, which means that I capture natural moments and create images packed with personality.
If you appreciate candid photography, then you’re definitely in the right place!
Experience
I’ve been a professional photographer since 2007 and have worked with hundreds of brides and grooms and families, as well as many of the leading brands and corporations across Wales and beyond.
What makes me a good people photographer is that I'm always looking for that moment of personalities connecting.
Working with me
Clients tell me that I am calm and laid-back, and that I manage to make myself invisible – something which I believe is key to me capturing those natural moments during our time together.
Hiring me as your photographer will be an enjoyable experience. I’m approachable, great with people of all ages, and always up for a laugh!
A few extra things you may want to know about me….
I’ve worked in TV since the beginning of my career. Back in 2004, I worked as a graphic/web designer, then got involved with acting - initially as an supporting artist and subsequently as a performer.
Now, as a professional photographer, when I’m not photographing families or babies, I work with TV producers and crew, capturing portraits and images for a variety of documentary and reality programmes.
Why ‘Celf Calon’?
Celf Calon literally means ‘Heart Art’ in English. As a child of the 80’s, my love of hearts began with the Care Bears! I feel that hearts are symbolic of my loving and caring nature. I use of the word ‘calon’, like may you use love or darling. Haia calon shwt wyt ti? | Haia love! How are you?
Since I tend to use the word calon loads, when starting my business, it made sense to combine it with ‘celf’, as I had then – and still have now – a passion for all kinds of art such as visual arts, including photography, but also multimedia and music. In fact, I’m the lead singer and performer in the band, Pwdin Reis. I also play drums in the band Cwtsh.
If there’s anything else you’d like to know about me or about how I work, then please do get in touch. I look forward to hearing from you!
Betsan. x