Lluniau Masnachol
Rwy’n ffotograffydd masnachol profiadol iawn ac yn caru’r amrywiaeth o brosiectau yr wyf yn ymwneud â hwy. Mae fy nghleientiaid ffotograffiaeth fasnachol yn cynnwys rhai o'r enwau mwyaf yng Nghymru, megis S4C, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Yr Eisteddfod Genedlaethol, Theatr Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Hallmark Care Homes a llawer mwy.
COMMERCIAL Photography
I’m a highly experienced commercial photographer and love the variety of projects that I get involved with.
My commercial photography clients include some of the biggest names in Wales, such as S4C, BBC, Coleg Cymraeg Cenedlaethol, National Eisteddfod, National Theatre of Wales, National Library of Wales, Hallmark Care Homes and many more..
Wrth weithio ar brosiectau ffotograffiaeth fasnachol, mae pob diwrnod yn wahanol ond dyna sut rwy'n ei hoffi!
- Un diwrnod gallaf fod yn tynnu lluniau o enwogion neu gyflwynwyr teledu ar gyfer amrywiaeth o raglenni dogfen a realiti. Y nesaf gallaf fod yn creu delweddau ar gyfer ymgyrchoedd i'r wasg neu'n creu cynnwys gweledol ar gyfer BBC iPlayer ac S4C Clic.
- Dro arall, efallai fy mod yn dogfennu gwyliau cerddoriaeth a digwyddiadau byw, neu'n tynnu lluniau preswylwyr a staff cartrefi gofal sy'n mynd am eu dyletswyddau neu yn ystod digwyddiadau.
- Neu, efallai fy mod yn tynnu lluniau arweinwyr busnes, gweithwyr proffesiynol y diwydiant neu ffermwyr gyda'u cynnyrch da byw mewn lleoliadau ledled Cymru a thu hwnt.
Yn llythrennol, does dim diwrnod byth yr un fath!
When working on commercial photography projects, every day is different but that’s how I like it!
- One day I could be photographing celebrities or TV presenters for a variety of documentary and reality programmes. The next I could be creating images for press campaigns or creating visual content for BBC iPlayer.
- Another time, I might be documenting music festivals and live events, or photographing care home residents and staff going about their duties or during events.
- Or, I might be photographing business leaders, industry professionals or farmers with their livestock in locations across Wales and beyond.
Literally, no day is ever the same!
Mae fy ymagwedd broffesiynol a'm mhrofiad helaeth o weithio mewn amrywiaeth eang o leoliadau masnachol yn fy ngwneud yn addas iawn ar gyfer unrhyw brosiect masnachol sy'n gofyn am ddull sensitif ynghyd â delweddau o'r radd flaenaf.
Mae fy nghleientiaid masnachol wedi dweud wrthyf fod fy mhresenoldeb yn un tawel wrth gael y delweddau gorau allan o unrhyw sefyllfa. Rwyf hefyd yn hoffi meddwl fy mod yn ffotograffydd sy’n hoffi bach o sbort, yn angerddol am yr hyn rwy'n ei wneud ac y gallaf weithio'n dda gyda phobl o bob cefndir ac oed. Mae'r sgiliau hyn yn gaffaeliad enfawr yn fy ngwaith ffotograffiaeth fasnachol.
Os ydych chi'n chwilio am ffotograffydd masnachol dibynadwy sy'n gallu ychwanegu llond sach o werth ar brosiectau Cymraeg eu hiaith, cysylltwch â mi!
My professional demeanour and vast experience working in a wide variety of commercial settings makes me a great fit for any commercial project which requires a sensitive approach and first-class images.
My commercial clients tell me that I am a calming presence and can always get the best images out of any situation. I also like to think that I am fun, passionate about what I do and that I can work well with people from all walks of life and of all ages. These skills are a huge asset in my commercial photography work.
I’m also first-language Welsh, which makes me a versatile bilingual photographer.
If you’re looking for a reliable commercial photographer who can add bags of value on either English-speaking or Welsh-speaking projects, do get in touch!