Os ydych chi'n fy newis i fel ffotograffydd eich priodas, efallai eich bod am ddogfennu eich diwrnod mawr mewn ffordd realistig, naturiol ac rydych chi'n hoffi'r ffotograffau priodas hamddenol a welwch ar y dudalen hon.

Rydych hefyd yn debygol o eisiau sicrhau na fydd fy mhresenoldeb i’n tynnu sylw oddi ar y dathlu. Mae pobl yn aml yn dweud wrthyf wrth edrych ar eu lluniau priodas, "Nes i ddim sylwi bod ti yno”. Mae'n ymddangos mai ffotograffiaeth priodas anfwriadol a hamddenol yw fy ‘super power’.

Mae'n bleser mawr gen i wybod bod cyplau Celf Calon dwi'n tynnu lluniau ohonyn nhw mor 'yn y foment', a thu mewn i'w swigen o gariad, nad ydyn nhw hyd yn oed yn sylwi fy mod i yna! Rwy'n credu mai dyna sut y dylai fod ar eich diwrnod priodas. Dylech fod yn mwynhau pob eiliad i'r eithaf, a heb boeni am ble ‘rwyf i na pha luniau sy'n cael eu tynnu.

If you choose me as your wedding photographer, it’s because you want to document your big day in a realistic, natural way and you like the relaxed wedding photographs you see on this page.

You also likely don’t want my presence to be a distraction on your wedding day. People often tell me when viewing their wedding images, “I didn’t notice you were there”. It seems unintrusive wedding photography is my superpower!

It gives me great joy to know that the couples I photograph are so ‘in the moment’, and inside their love bubble, that they don’t even notice me! I believe that’s how it should be on your wedding day. You should be enjoying every moment to the full, and not worrying about where I am or what photos are being taken.

Ychydig o wybodaeth amdana i:

  • Fy nod yw gwneud i bawb – chi, eich gwesteion ac aelodau o'r teulu - deimlo'n gyfforddus yn fy nghwmni. O blant bach i Nain a Taid, rwy'n mwynhau gyda phobl o bob oed ac wrth fy modd yn cloncan!
  • Rwy'n dod i adnabod fy nghleientiaid ac yn rhannu syniadau. Mae gweithio gyda mi yn broses o gydweithio yn hytrach na dweud wrthych beth i'w wneud a pha luniau y mae'n rhaid i chi eu cael.
  •   Erbyn eich diwrnod mawr, rwy'n gobeithio gwneud i chi deimlo fy mod yn ffrind y gallwch ymddiried ynddo. Byddaf yn gwneud i chi deimlo'n hamddenol yn ystod yr adegau mwyaf nerfus o'r dydd fel y gallwch fwynhau diwrnod gorau eich bywyd yn llawn.

A few other things you should know about me:

  • I aim to make everyone – you, your guests and family members - feel comfortable in my presence. I’m great with people of all ages and love to chat!
  • I get to know my clients and share ideas. Working with me is a collaboration rather than me telling you what to do and what photos you must get!
  • By your wedding day, I hope to make you feel like I’m a friend who you can trust. I’ll make you feel relaxed during what can be the most nerve-wracking moments of the day so that you can fully enjoy the best day of your life.


Uchafbwyntiau Hayley & Huw Highlights

17/09/2020