May 13, 2022

Podcast Artwork Portraits for The Not Not Trying Fertility Podcast

Portreadau Gwaith Celf ar gyfer Podlediad Ffrwythnlodeb Not Not Trying

 Os ydych chi wedi darllen rhai o fy mlogiau eraill fan hyn ar fy ngwefan ffotograffiaeth, falle y byddwch chi’n gwybod ’mod i wedi tynnu lluniau o Tara Bethan yn ddiweddar. 

Gethon ni amser sbesial. O’n i mor falch, felly, pan gysylltodd hi gyda fi eto ddim sbel ar ôl ’ny yn cynnig cyfle arall i gydweithio. 

Nid yn unig ei bod hi’n gerddor Cymraeg, mae hefyd wedi ennill gwobrau am ei gwaith yn cyflwyno podlediadau. Felly roedd hi ishe i fi dynnu lluniau ohoni hi a’i chyd-gyflwynydd ar y podlediad, Erin Richards, er mwyn creu portreadau i’w defnyddio ar waith celf eu podlediad.  

Roedd y ddwy’n gweithio tuag at lansio eu podlediad ffrwythlondeb newydd o’r enw ‘Not Not Trying’ – rhaglen sy’n sôn am hynt a helynt creu babis yn eu 30au hwyr.

Darllen cysylltiedig: Ffotograffiaeth Cerdd Tara Bandito 

Podcast Artwork Portraits for The Not Not Trying Fertility Podcast

If you’ve read some of my other blogs here on my photography website, you’ll perhaps know that I photographed Tara Bethan recently. 

It was an incredible time we had, and so I was thrilled when she contacted me again shortly afterwards with another collaboration opportunity. 

Since she’s not only a Welsh musician but an award-winning podcast host too, she wanted to hire me to photograph her and her podcast co-host, Erin Richards, with a view to creating portraits to be used on their podcast artwork.  

Together, they were looking ahead to the launch of their new fertility podcast called ‘Not Not Trying’ – a programme about the ups and downs of baby making in their late 30’s. 

Related reading: Tara Bandito Music Photography

Y Cleientiaid

Sdim wir angen i fi gyflwyno’r merched. 

Fel y byddwch chi falle’n gwybod, mae Tara Bethan yn cyflwyno ac yn cyd-gynhyrchu’r podlediad ‘Dewr' a enillodd wobr y categori Cymraeg yng ngwobrau’r 'British Podcast Award’ 2021. 

Roedd y beirniaid yn canmol ei sgiliau wrth iddi “dywys y gwesteion yn ara’ deg drwy bynciau anodd gydag empathi”, a’i “dawn, heb ei hail, o wybod pryd mae siarad a phryd mae gwrando”. Arweiniodd hyn at ail gyfres gyda BBC Sounds. 

Wedi iddi ddechre perfformio pan oedd hi’n 5 oed, a chael gael gyrfa hir ym myd y sioeau cerdd a’r teledu, mae’n deall y byd adloniant, y byd busnes, creadigrwydd ac iechyd meddwl ac mae’n gallu eu trin mewn ffordd gynnes ac onest.  

Dechreuodd ei chyd-gyflwynydd, Erin Richards, ei gyrfa’n cyflwyno i BBC Cymru/S4C ar y rhaglen gylchgrawn ‘Mosgito’. Yna, cafodd yrfa lwyddiannus yn actor ac yn gyfarwyddwr gan ymddangos yn Being Human (BBC), Breaking In (Fox), ac mae’n cael ei hadnabod orau fel Barbara Kean yn y rhaglen deledu lwyddiannus, Gotham. 

Mae’n dadlau dros hawliau menywod a merched ac yn ymgyrchu am well addysg rhyw mewn ysgolion.  

The Clients

Neither of the ladies need much of an introduction. 

As you may already know, Tara Bethan presents and co-produces the podcast ‘Dewr' which won the 'British Podcast Award’ in the Welsh Language category in the 2021 awards. 

The judges hailed her skills of "gently guiding the guests with empathy through difficult subjects" and "her art of knowing when to talk and when to listen is second to none." This resulted in a second series with BBC Sounds. 

Having started performing at age 5, and having a long career in Musical Theatre and television, she brings her experience and understanding of the show business world, creativity, and mental health issues to the table with warmth and transparency.

Her podcast co-host, Erin Richards, began her career presenting for BBC Wales/S4C on the Welsh language magazine show ‘Mosgito’. She then went on to have a successful career as an actress and director appearing in BBC’s Being Human, Fox’s Breaking In, and most notably Barbara Kean in the hit TV show Gotham. 

She is an advocate of women's and girl’s rights and campaigns for better sex education in schools.

Tara Bethan & Erin Richards

Portreadau Podlediadau

Y briff oedd tynnu lluniau o Tara ac Erin yn erbyn cefndir gwyn, fel y gallai eu dylunydd graffeg dorri’r lluniau o’r cefndir er mwyn gwneud gwaith graffeg i’r podlediadau.  

Roedd Tara ac Erin eisiau cyfres o luniau ohonyn nhw gyda’i gilydd ac ambell bortread ohonynt nhw ar ben eu hunain fel promos ar gyfer y podlediad.  

Roedden nhw hefyd ishe lluniau ohonyn nhw’n dychmygu bod sberm ac wyau’n hedfan o’u cwmpas, a fyddai wedi’u hanimeiddio ac yn cael eu hychwanegu yn nes ymlaen. 

Fel y gallwch chi ddychmygu, falle, o’dd tynnu lluniau o hyn yn lot o sbort! 

Podcast portraits

The brief was to photography both Tara and Erin against a white background. This was so that their graphic designer would then be able to cut them out from the background to make graphics for the podcast artwork. 

Tara and Erin wanted a series of images of them both together as well as individual portraits as promo shots for the podcast. 

They also wanted a series of images of them imagining sperm and eggs flying around them, which would be animated elements added in later. 

As you can perhaps imagine, this proved to be a real laugh to capture!

Artwork: Torri a Gludo

Y tu ôl i’r llenni - creu podlediad ffrwythlondeb modern

Gan fod Tara ac Erin yn pros go iawn yn y byd adloniant, odd e’n sbesial gweithio gyda nhw gan eu bod yn actorion anhygoel ac yn berfformwyr naturiol. Mae bod yn eu cwmni’n gymaint o hwyl, hefyd, ac maen nhw wastad yn barod am bach o sbort!  

Pan newidion nhw eu gwisgoedd, nes i chwerthin gymaint oedd e’n neud dolur! Dyma beth yw dwy haden! 

Drychwch arnyn nhw wedi eu gwisgo mewn gwisgoedd sberm ac wy ’roedden nhw wedi’u creu! 😊

Dwi’n aros i weld beth fyddan nhw’n ei wneud gyda’r lluniau, ond dyma gipolwg o’r sesiwn tynnu lluniau…

Behind the scenes in the making of a modern fertility podcast

Since both Tara and Erin are complete pros in the showbiz world, they were both amazing to work with as they are great actors and natural performers. They are also such fun to be around and are always up for a laugh! 

When they did a costume change, I laughed so much it hurt. Honestly! What a giggle these girls are!

Take a look at them dressed up in homemade sperm and egg costumes! 😊

I’ve yet to see what they are going to do with the images, but here is a sneaky peek from the photoshoot…

Dechrau sbesial i 2022!

Mae fy jobyn i mor random ar adegau! 

Pwy feddylie y bydden i’n tynnu llun o actor o Hollywood mewn gwisg sberm homemade? Nes i bendant ddim dechre’r flwyddyn yn meddwl y byddai hyn yn digwydd!

Diolch enfawr i Tara ac Erin am y shoot yma.

I fi, yn bersonol, o’dd hi’n ddechre sbesial i 2022 a nath e’n sicr rhoi gwen ar fy ngwyneb ym mis Ionawr, sy’n gallu bod yn fis digon tawel i ffotograffwyr.  

A wonderful start to 2022!

My job is so random at times! 

Who’d of thought I would photograph a Hollywood actress in a homemade sperm costume? I certainly hadn’t started the year thinking this would have been on the cards! 

Big thanks must go to Tara and Erin for this shoot. 

For me, personally, it was a great start to 2022 and it certainly gave me something to smile about in January during what is typically a fairly quiet time for photographers. 

Mae Not Not Trying yn siŵr o ddod yn un o bodlediadau mwyaf llwyddianus y DU!

Dymuniadau gorau i Tara ac Erin gyda’r podlediad Not Not Trying. 

Dwi’n credu ei bod hi’n hen bryd fod mwy o ymwybyddiaeth am ffrwythlondeb. Dwi’n credu y byddan nhw’n helpu cymaint o bobl sy’n wynebu problemau ffrwythlondeb ac y byddan nhw’n llwyddiannus. Gobeithio mai hwn fydd podlediad ffrwythlondeb mwyaf llwyddiannus y DU!  

Mae’n bodlediad gonest, doniol iawn sydd weithiau’n dorcalonnus, yn rhoi sylw i geisio cenhedlu yn eich tridegau hwyr. Drwy’r gyfres gychwynnol o wyth pennod, mae’r ffrindiau gorau Erin Richards a Tara Bethan yn ein tywys drwy hynt a helynt creu babis—o’r mucus i’r meltdowns, y doulas a’r dildos, ayahuasca ac acupuncture a phob peth yn y canol!

Os oes diddordeb ’da chi yn y pwnc, cymerwch olwg a dilynwch nhw ar Instagram https://www.instagram.com/notnottryingpodcast/

Not Not Trying is sure to become one of the best fertility podcasts in the UK!

I wish both Tara an Erin both all the best with the Not Not Trying podcast. 

For what it’s worth, I think it’s about time that there was more awareness around the topic of fertility. I’m sure that they will help so many people who are experiencing fertility issues and will achieve great things. Hopefully, it may become the best podcast about fertility in the UK!  

It’s pitched as an honest, hilarious, and at times, heart wrenching look at trying to conceive in your late thirties. Through the initial eight part series, best mates Erin Richards and Tara Bethan take us through the ups and downs of baby making-- from mucus to meltdowns, doulas to dildos, ayahuasca to acupuncture and everything in between!

If the subject interests you, do check it out and follow along over on Instagram at https://www.instagram.com/notnottryingpodcast/

Cysylltwch â fi os hoffech chi luniau portread ar gyfer podlediad

Dwi’n gwneud amrywiaeth o brosiectau ffotograffiaeth masnachol. Bydden i wrth fy modd yn clywed gennych os ydych chi’n gweithio ar rywbeth sydd angen lluniau proffesiynol.

Cysylltwch â fi ar y ffurflen hon fel y gallwn drefnu sgwrs i weld a fydden ni’n ffit da gyda’n gilydd.  

Contact me if you’re in need of podcast portraits

I take on a wide variety of commercial photography projects and would love to hear from you if you’re working on something that requires professional imagery. 

Please contact me via this form so we can arrange a chat to discuss whether we may be a good fit.