Dyfodol Priodasau 2021
DYFODOL PRIODASAU 2021
Heb os 2020 o’dd y flwyddyn gwaethaf erioed pan mae’n dod i papo priodasau.
Yn anffodus nath pob priodas Celf Calon cael eu gohurio i 2021 a rhai i 2022. Pwy a wyr shwt fydd pethau erbyn y Gwanwyn, falle fydd dal cyfyngiadau o rhan niferoedd, falle ddim.
Ond yn sicr bydd priodasau byth ru’n fath o hyn ymlaen a fi’n eitha’ cyffrous am hyn.
Er mae’n anodd bod yn bositif am y dyfodol wythnos ‘ma, y peth mwyaf positif am y pandemig yw mae e wedi neud ni gyd sylweddoli faint ni’n angen cyd-ddyn o’m cwmpas a pha mor bwysig yw teulu a ffrindiau. Ac wrth sgwrs, fi’n siŵr ma’ pawb ffansi gwisgo lan yn bert a chael gwd sesh/parti oddi cartre’.
Chwefror - dechrau a diwedd priodas arferol
Chwefror 2020 o’dd y briodas arferol ddiwethaf i fi… Pan o’dd ton corona feirws yn bell o Gymru fach. Wrth edrych yn ôl ar y lluniau nath e fy nharo ac atgoffa fi taw dyma’r tro diwetha i fi dynnu lluniau priodas lle oedd pawb a’r hawl i gwtsio ei gilydd heb fecso dim. Er ro'dd briodas Bethan a Dan yn dilyn y traddodiad arferol o ran rhediad y dydd, fe benderfyno'n nhw i beidio cael dawns cynta' a chynnal cwis Sïon a Siân, y tro cyntaf i mi brofi newid traddodiad arferol yn 2020.
Micro wedding - Mis Medi 2020
Ym mis Medi ges wahoddiad munud ola’ i bapo priodas ‘social distancing’ am y tro cyntaf, lle'r oedd neb ond y briodferch, Hayley a’r priodfab, Huw yn cael cwtsio â’r gwesteion yn gorfod cael eu trefnu mewn i swigod gwahanol. Roedd tynnu lluniau o dan yr amodau yma yn od iawn i fi achos dyna be fi’n joio fwyaf am dynnu lluniau yw dal moments o gariad rhwng pobl. Mae rhaid dweud o’n i’n nerfus iawn yn mynd i’r briodas.
I ddechrau roedd ddim gweithio na theithio am fisoedd yn arfer newydd. Ond chi’ mod beth, o’dd ên lyfli, os rhywbeth o’dd llai o bwysau na beth sydd fel arfer wrth dynnu lluniau priodas.
Fi yn credu mae’r pandemig wedi gwneud i bobl ystyried beth sydd wir yn bwysig, sef cael pawb chi’n caru fwyaf ar eich diwrnod gore erioed.
Tueddiadau 2021
Gan ei fod yn flwyddyn newydd licen i rannu tueddiadau 2021 (‘2021 wedding trends’) sy’n neud fi’n gyffrous am bapo priodasau eleni.
Y Ffrog
Yn dilyn priodasau llai o ran niferoedd yn 2020 mae’r dylunydd ffasiwn Jess Kaye of the Own Studio yn son bod hyder priodferched yn cynyddu i fod yn fwy creadigol gyda ffasiwn. Mae’n debyg bod ‘na chynnydd mewn gwerthiant jumpsuits a suits ac i osgoi'r ffrog darddiadol wen. Disgwyl m'lan i weld os mae hyn yn wir i briodferched celf calon.
Priodas fach- Micro Weddings
Mae’r term micro weddings neu intimate weddings yn boblogaidd nawr. Ond mae e wedi bod yn cynyddu ers cyn y pandemig. Dwi’n gyfarwydd â papo priodasau bach a mawr. Y lleiaf gyda dim ond 6 o westai yn y seremoni, y fwya gyda dros 180 mewn seremoni ac yna 300 erbyn y nos! Mae pob un ohonynt yn sbesial.
Manteision priodas fach yw bod y briodas yn llai costus ond wrth fod yn llai costus mae cyplau yn gallu gwario fwy ar y gwesteion a’i sbwylio yn fwy; gwario mwy ar brydau bwyd da er enghraifft, bar am ddim, llogi’r lleoliad priodas am benwythnos cyfan er mwyn gwneud y fwya o’r dathlu a mwynhau gyda’u gwesteion. Does dim rhaid creu amserlen tynn a bydd hyd yn oed mwy o gyfle i siarad gyda’r gwesteion.
Fi’n cofio teimlo’n euog y diwrnod ar ôl fy mhriodas i, a meddwl ‘daro! Ges i ddim cyfle i siarad â phawb o’dd wedi dod i ddathlu.’ Mae’n llai o bwysau a stress, yn enwedig i gyplau sydd â diffyg hyder i fod o gwmpas dros gant o bobl. Mwy o amser i dynnu lluniau. Gan amlaf, mewn priodas arferol, mae’r amser yn dynn iawn i dynnu lluniau sy’n drueni achos y lluniau sy’n cadw am byth a pan mae fwy o amser mae’n golygu llai o bwysau a mwy o sport sydd yn y pendraw yn creu mwy o atgofion.
Lleoliad
Addasu gofod mewn ffordd gwahanol fydd rhaid cyplau gwneud yn 2021. Ystafell fawr fydd y blaenoriaeth er mwyn i gwesteion cael digon o lle i gymdeithasu. Bydd fordydd hir yn boblogaidd gyda cynllun amrwyiol lle bydd pobl ddim yn gwynebu eu gilydd. Credu fydd hyn yn haws i fi fel ffotograffydd pan mae’r areithiau yn digwydd. Mae fordydd cylch yn anodd i ddal pobl o gwmpas y ford yn enwedig mewn ystafelloedd fach. Rosie Bess of Beatnik Bride predicts sleek tableware, tonal glassware and modern soft furnishings opposed to rustic vintage designs.
Hefyd gyda’r newid yn y gyfraith mae gan cyplau fwy o rhyddid i ga’l seremonai sifil mewn lleoliadau chi erioed ‘di gweld o’r blaen.
Y dyddiad
Gyda’r cynnydd cyflym o weithio’n hyblyg o gytre’ mae canfyddiad y traddodiad o briodi ar y penwythnos mas trwy’r ffenest, sy’n gwneud priodi canol wythnos gymaint fwy poblogaidd.
A fydd hyn yn parhau?
Un peth sy’n sicr, bydd priodas Dan a Bethan mis Chwefror a phriodas Huw a Hayley yn briodasau bythgofiadwy i Celf Calon.
Felly 2021 amdani a thraddodiadau newydd i papo priodasau. Iechyd da a chadwch yn saff.