February 5, 2021

Dydd Miwisig Cymru 2021 - Welsh Language Music Day

Gwobrau Selar trwy'n lygaid bach i.


Mae’n ddydd Miwsig Cymru heddi… a Huw Stepehens wrthi’n neud marathon darlledu ar Radio Cymru 2.

 

Ges i fy ngwahodd i siarad â Huw am luniau Gwobrau Selar dros y blynyddoedd diwetha’ ar y rhaglen bore ‘ma. Grêt! Y tro cyntaf i mi ‘papio’r gwobrau anhygoel yma oedd yn 2014. Fel Huw yn neud marathon Radio heddi, mae Gwobrau Selar gwmws fel marathon papo i fi. Pob blwyddyn, o tua 6pm tan tua 1 y bore fi wrthi yn papo’r bandiau, y gwobrwyo, y gynulleidfa a’r bwrlwm cefn llwyfan.


Wrth bori nol drwy hen luniau mae’n grêt i weld yr holl fandiau sydd wedi mynd a dod, i fandiau sydd wedi datblygu mewn i’r bandiau fwyaf blaenllaw heddi, fel Casi Wyn, Adwaith, HMS Morris a Gwilym i enwi ond rhai.

Beth sy'n neud llun band da?

I gal llun da o’r bandiau yn perfformio be fi’n edrych mas amdano fel ffotograffydd yw aelodau sydd yn fodlon gadael ei hunain fynd ar y llwyfan, ymgolli yn gyfan gwbl mewn i’r miwsig heb fecso dim.

Rhan fwyaf o’r amser y prif leisydd yw hwnna ond weithiau'r drwmwr sydd llawn egni, neu gitarydd, pwy a ŵyr! Mae pob shot yn cyfleu’r egni a’r naws ar y llwyfan.

Dwi’n eithaf ffodus bod gen i brofiad o fod yn ddrwmwr a phrif leisydd mewn band ac mae hwnna wedi helpu fi fel ffotograffydd, achos yn aml ma’r drwmwr yn cael ei anghofio felly pan mae cyfle dwi’n trio fy ngorau i ddal pob aelod o’r band.


ANweledig yn 25

Yn 2018 o’dd Anweledig yn dathlu 25 mlynedd ac o’n i’n croesi popeth bod nhw’n mynd i berfformio ar y noson. Anweledig odd un o’m hoff fandiau yn fy arddegau ag o’n i’n lwcus iawn i allu gweld nhw yn gigo dros Gymru gyfan. Diwedd y 90au o’n i drwmo i fand Alcatraz a gefnogon ni Anweledig yn Roc y Cnapan 1999. Gig ffantastig, na'th fi a Cet endo lan yn dawnsio gyda darnau o ‘wicker baskets’ ar y llwyfan tra o’dd Anweledig yn perfformio. Atgofion melys iawn a pheidiwch a gofyn i fi ble yn y byd ffindon ni'r darnau o 'wicker baskets'. Felly yn 2018 o’n i’n rili gobeithio bydde nhw’n perfformio yn fyw er mwyn cael stoc o luniau o’r band a Ceri Cunington, sef yn fy marn i, yw prif leisydd gorau'r Sin Roc Gymraeg. Ond yn lle, ges i luniau ohonyn nhw yn cael eu cyfweld. Gret odd dal y llun isod o Ceri a Alwyn yn cael cwtsh.


Ond i fynd nol at y bandiau sydd wedi perfformio yng Ngwobrau Selar ac wedi creu eithaf argraff, Osian Candelas sy’n sefyll mas, heb os. Mae e’n gwybod shwt ma chwarae i’r camera a’n amlwg yn mwynhau bob eiliad o berfformio’n Fyw, sydd yn neud fy swydd i lot haws fel ffotograffydd.

Gig Sbesial Heather Jones

Roedd gwobrau 2018 yn fythgofiadwy hefyd achos os fi’n cofio’n iawn, dyma pryd newidiodd y gwobrau i fod dros benwythnos cyfan - dwy noson llawn dathliadau o brif fandiau Cymru. Ar y nos Wener roedd gig Heather Jones i ddathlu ei chyfraniad hi i’r sin Roc Gymraeg. O’dd tynnu’r lluniau ohoni hi'r noson yna yn uchafbwynt gyrfa i mi, na’i byth anghofio’r noson a diolch i Selar am y cyfle arbennig yma. Ond her a hanner oedd canolbwyntio ar dynnu lluniau achos o’n i’n joio perfformiad Heather gymaint. Roedd naws mor dawel a heddychlon yn yr Hen Goleg wrth i bawb yn y gynulleidfa wrando’n astud ac yna ar ddiwedd y perfformiad roedd pawb ar eu traed gyda rhyw egni emosiynol o falchder. Braint oedd rhannu’r foment yma drwy luniau.


Perthyn ir Sin Roc Gymreig

Er does dim llawer o amser gyda fi i gymdeithasu ystod y gwobrau, be dwi’n ei garu yw’r cyfle i ddal y bandiau yn perfformio’n fyw a dal ymateb arbennig y gynulleidfa, cael clonc gydag ambell hen ffrind sydd, fel fi, wedi gweithio a pherfformio o fewn y sîn roc Gymraeg, a theimlo fel ein bod ni gyd yn perthyn i’r foment yma mewn hanes.


Joiwch y lluniau a shariwch y blog.

Dydd Miwsig Hapus i chi gyd.x