July 24, 2022

Celebrating 15 years of Celf Calon Photography!

DATHLU 15 MLYNEDD O FFOTOGRAFFIAETH CELF CALON!

Y mis hwn, dwi’n dathlu pen-blwydd fy musnes, Ffotograffiaeth Celf Calon yn 15 oed! Mae'n anhygoel pa mor gyflym aeth yr amser ’na! 

I fi, mae bod yn hunangyflogedig am gyfnod mor hir yn dipyn o gyrhaeddiad. Pan ddechreues i arni, fydden i byth wedi credu y byddwn dal i weithio fel ffotograffydd proffesiynol annibynnol 15 mlynedd yn ddiweddarach! 

Dwi’n cymryd rhan mewn cymaint o sesiynau tynnu lluniau creadigol sy’n llawn sbort fel ffotograffydd babis newydd-anedig, teuluoedd, priodasau a masnachol. Er y bu adegau sbesial a rhai anodd yn ystod y cyfnod ‘na, allen i byth fod wedi dychmygu pa mor anhygoel y byddai'r cyfan!

Darllen cysylltiedig: Ffotograffiaeth Celf Calon 2021: bwrw golwg ’nôl dros y flwyddyn



CELEBRATING 15 YEARS OF CELF CALON PHOTOGRAPHY!

This month, I’m celebrating the 15th anniversary of my business, Celf Calon Photography! It’s crazy to think how quickly that time has flown! 

To me, it’s a huge achievement to have been self-employed for such a long time. When I first started out, I never would have believed that I would still be working as an independent professional photographer 15 years later! 

I get involved in so many fun and creative photoshoots as a newborn, family, wedding and commercial photographer. Although there have been highs and lows during that time, I really couldn’t have imagined how incredible it would all work out!  

Related reading: Celf Calon Photography 2021: The year in review


nodi 15 mlynedd mewn busnes 

Felly, achos bod y pen-blwydd yn 15 oed yn teimlo fel tipyn o garreg filltir, penderfynais gwpwl o fisoedd yn ôl y byddwn yn dathlu mewn rhyw ffordd. 

Ar ôl lot o feddwl, fe wnes i benderfynu: i nodi pen-blwydd y busnes yn 15 oed, cysylltais yn ’nôl gyda rhai o fy nghleientiaid blaenorol a gofyn iddyn nhw ddewis eu hoff lun o’r rhai o’n i wedi’u tynnu.

A dyna dwi wedi bod yn ei wneud ’nawr!

Dros yr wythnosau diwetha’, dwi ’di bod yn cysylltu â rhai o fy nghleientiaid gan ofyn iddyn nhw gyfrannu at y blog pen-blwydd yma. Nes i egluro iddyn nhw taw’r bwriad oedd cynnwys detholiad o ddelweddau, a oedd wedi’u dewis gan gleientiaid, mewn erthygl (yr un yma) ac y byddwn hefyd wrth fy modd yn gwybod pam bo’ nhw wedi dewis y ddelwedd benodol honno.

Nes i eu gwahodd hefyd i rannu tamed bach am eu profiad o weithio gyda Ffotograffiaeth Celf Calon. Roedd yr adborth ’ma’n ddiddorol dros ben i fi. Gobeithio, hefyd y bydd e’n ddefnyddiol i chi os chi’n ystyried fy hurio ar gyfer eich prosiect ffotograffiaeth nesa’. 


mark this 15th year in business 

So, because the 15-year anniversary feels like a big deal, I decided a few months back that I would celebrate in some way. 

After a lot of thinking, my mind was made up. I decided that to mark this 15th year in business, I would get back in touch with some of my past clients and ask them to choose their favourite photograph from the ones I’ve taken for them. 

This is what I have now done!

Over the past few weeks, I have been contacting some of my clients and asking them to contribute to this anniversary blog. I explained to them that my intention was to feature a selection of images, chosen by clients, in an article (this one) and that I would also love to know why they’d chosen that particular image. 

I also invited them to share a little about their experience of working with Celf Calon Photography. This feedback was fascinating to me but, I hope, also may be useful to you if you’re considering hiring me for your next photography project.  


Dyddiau cynnar Ffotograffiaeth Celf Calon

Ond, cyn i fi rannu’r ffotograffau sydd wedi’u dewis gan fy nghleientiaid, byddwn wrth fy modd yn rhannu ychydig am gefndir Celf Calon gyda chi ...

Yr adeg yma 15 mlynedd yn ôl, penderfynais chwilio am waith llawrydd. Galwais fy hun yn 'Celf Calon' gan bo’ fi ddim am ddefnyddio fy enw fy hun wrth fasnachu. 

Pam Celf Calon? Wel, dwi’n tueddu i alw ffrindiau agos yn 'calon'. Yma yng Nghymru, ni’n defnyddio’r gair yn aml wrth alw rhywun yn gariad... er enghraifft, mae e fel dweud, "Hi love!", neu "Shwt wyt ti, cariad? 

Hefyd, o’n i'n ffan mawr o'r cartŵn 'Care Bears' pan o’n i’n blentyn a dwi hefyd wrth fy modd â cherddoriaeth y Beatles, felly fe allech chi ddweud mai heddwch, cariad a siâp calonnau oedd fy mheth i! Wrth i fi edrych yn ôl ’nawr, dwi’n sylweddoli bod fy hoffter o’r math hwn beth yn dangos ochr ramantus, neu ‘soft’ o bosib, fy mhersonoliaeth.

Nes i ddewis y gair 'Celf' achos ei fod yn cynrychioli pob math o gelf a chreadigrwydd. 

The early days of Celf Calon Photography

Before I reveal the photographs chosen by my clients though, I’d love to share with you a little about the background to Celf Calon…

This time 15 years ago, I decided to find freelance work. I called myself ‘Celf Calon’ as I didn’t want to use my own name as a trading name. 

Why Celf Calon? Well, I tend to call my close friends ‘calon’. Here in Wales, the word is widely used when calling someone love…for example, it’s like saying, “Hi love!”, or “How are you, love?”. 

Also, I was a big fan of the cartoon ‘Care Bears’ as a child and I also love music by the Beatles, so you could say that peace, love and heart shapes were my thing! Looking back now, I realise that my affinity to this kind of show and music is reflective of the romantic, or you could say, soft side of my personality. 

I chose the word ‘celf’ as it represents all kinds of art and creativity. 

Mari, Rhydian, Llinos Cyflwynyr UNED 5 Presenters

Mattoidz - Uned 5

Dechrau arni

Flwyddyn ar ôl graddio, ’nes i hyfforddi a gweithio yng ngogledd Cymru. Dylunydd graffig cynorthwyol oedd fy swydd gyntaf, a hynny yn Recordiau Sain. Yno, o’n i’n dylunio gwaith celf CD ar gyfer y gwahanol gerddorion yr oeddent yn eu cynrychioli. 

Un o uchafbwyntiau’r swydd oedd cael y cyfle i neud ‘shelf shoot’ fideo cerddoriaeth i Elin Fflur oedd yn lot o sbort hefyd ond y gwaith mwya’ brawychus dwi erioed wedi ei wneud! O’n i’n teimlo mas o ’nyfnder a finne newydd ddechre fy ngyrfa, ond nes i lwyddo i’w wneud e, diolch byth!

Ar ôl hynny, gweithiais yng nghwmni cynhyrchu Antena TV yn ddylunydd graffig cynorthwyol. Ges i gyfle i ddylunio gwefannau a chreu graffeg ar gyfer sioe Uned 5, a oedd yn sioe boblogaidd iawn bryd hynny, yn cael ei darlledu’n fyw bob nos Wener ar S4C. 

O’n i wrth fy modd o gael y swydd ’ma! O’n i mor hapus yno a nes i lot o ffrindie - mae nifer ohonynt wedi mynd i weithio’n llawrydd ers hynny hefyd. Pan dwi’n cwrdd â nhw ar sesiynau tynnu lluniau ’nawr, ni wastad yn dweud faint nethon ni fwynhau gweithio ar Uned 5 a shwt odd e’n ddechre mor sbesial i'n gyrfaoedd ni gyd. 

I fi, o’n i wrth fy modd yno achos dyna lle'r o’n i'n cael cyfle i botshan gyda ffotograffiaeth. Ges i gyfle i dynnu lluniau rhai o'r gwesteion ar y sioe, a hyd yn oed cwpwl o gyfleoedd i berfformio ar y sioe fy hun gyda sawl band gan gynnwys Jonny Panic, Daniel Lloyd a Mr Pinc a Genod Droog! 



Starting out

A year after I graduated, I trained and worked in north Wales. My first job was for Sain Records as an assistant graphic designer. There, I designed CD artwork for the various musicians they represented. 

One highlight of the job was that I got to shelf shoot a music video for Elin Fflur which was a lot of fun but probably the scariest job I’ve ever done! I felt totally out of my depth at this early point in my career, but did manage to pull it off thankfully!

After that, I moved on to work at Antena TV production company as an assistant graphic designer. I got to the opportunity to design websites and create graphics for the Uned 5 show, which was a very popular show at that time, and which was broadcasted live every Friday evening on S4C. 

I was over the moon to get this job! I loved my time there and made a lot of friends - many of whom have since gone freelance as well. When I bump into them on shoots now, we always say how much we loved working at Uned 5 and how it was such a great start to all our careers. 

Personally, I loved it there because it was where I dabbled more in photography. I got to photograph some of the guests on the show, and even a few chances to perform on the show myself with several bands including Jonny Panic, Daniel Lloyd and Mr Pinc and Genod Droog! 


Esiamplau o beth o'n i'n joio dylunio fwya pan yn gnweud gwaith graffeg

Samples of my favourite kind of graphic design

Symud i dde Cymru

Ar ôl pedair blynedd o fyw yn y gogledd, symudais i Abertawe i fod gyda fy ngwraig erbyn hyn, ar ôl bod ar wahân am dros flwyddyn. Roedd y teithio’n anodd, ac roeddem am setlo yn y de am resymau personol. 

Ro’n i’n bwriadu cynnig am swyddi fel dylunydd ac, mewn gwirionedd, o’n i’n agos iawn at gael swydd yn y BBC ond heb ddod i’r brig yn y camau olaf. Nes i sylweddoli nad oedd cyfweliadau’n fy siwtio i, achos nad oedd gen i hyder i werthu fy hun.

Roedd fy nana yr un peth - mae hi wastad wedi dweud straeon wrtha i taw hi oedd y brif ran yn ei sioe gerdd ddramatig amatur. Byddai hi’n dweud mewn acen Bontypridd gref “I don’t do auditions but give me the part and I’ll do it well!” O’dd hi'n gymeriad!

Fi’n credu bod hynny wedi'i wreiddio ynof i yn rhywle, ac felly nes i fyth cael y swyddi dylunio o’n i’n mynd amdanyn nhw. Ond, daeth cyfle yn y diwedd i fod yn ddylunydd llawrydd i Gylchgrawn Golwg ar gontract tymor byr. 

Ar gyfer y cyfweliad hwnnw, cyflwynais fy mhortffolio ffotograffiaeth a dylunio ac o'r diwedd fe wnes i'n dda. Ces i’r swydd!

Un peth dwi’n ei gofio'n glir am y cyfweliad yw bod Dylan Iorwerth, sylfaenydd Golwg, wrth edrych ar ddelwedd o'm gwaith wedi dweud wrtha i, "Dyw hon ddim yn ddelwedd olygyddol". Wrth edrych yn ôl, dwi mor ddiolchgar iddo am y sylw gan ei fod wedi gwneud i mi feddwl mwy am y rheswm y tu ôl i'r llun ac am y gynulleidfa dan sylw. 

Dechreuais ddod o hyd i fy steil ffotograffiaeth gan feddwl mwy am yr ystyr a'r stori y tu ôl i ddelwedd yn hytrach na chanolbwyntio ar yr agweddau technegol ar dynnu llun gwych yn unig. 

Roedd y chwe mis cynta’ hwnnw o waith llawrydd yn sbesial, a dysgais i lawer. Dwi’n falch o allu dweud bod Golwg wedi fy nefnyddio'n rheolaidd ers hynny a dwi’n falch iawn bod fy nelweddau wedi'u hargraffu ar glawr y cylchgrawn sawl gwaith! 

 


A move to south Wales

After four years of living in north Wales, I moved to Swansea to be with my now wife after being apart for over a year. The travelling got to us, and we wanted to settle in south Wales for personal reasons. 

I had the intention of trying for jobs as a designer and, in fact, was very close to getting a job in the BBC but missed out in the final stages. I realised that I was just not suited to doing interviews as I had no confidence in selling myself. 

My nana was the same - she’s always told me stories of her being the lead part in her amateur dramatic musical theatre show. In a strong Pontypridd accent “I don’t do auditions but give me the part and I’ll do it well!” She was a character! 

I think that became ingrained in my subconscious, and therefore I never got the design jobs I applied for. Eventually though, along came an opportunity to be a freelance designer for Golwg Magazine on a short-term contract. 

To that interview, I took my portfolio of photography and design and finally did well. I got the job! 

One thing that I remember clearly about the interview is that Dylan Iorwerth, the founder of Golwg, when looking at an image of mine said to me, “That's not an editorial image”. Looking back, I’m so grateful for this comment as it made me think more about the reason behind the picture and about the intended audience. 

I began to find my style of photography and to think more about the meaning and story behind an image rather than just focusing on the technical aspects of taking a great picture. 

That initial six months of freelancing was brilliant and taught me a lot. I’m pleased to be able to say that I have been used regularly by Golwg in the years since and am very proud to have had my images printed on the magazine cover several times!





"Dyw hon ddim yn ddelwedd olygyddol". Dylan Iorwerth, Golwg

Cyflwyniad i ffotograffiaeth priodasau 

Roedd Angharad Brinn yn un o fy ffrindiau yn y coleg ac mae ganddi lais hyfryd. Tua 2007/2008, recordiodd albwm a gofynnodd i fi ddylunio clawr y CD iddi. 

Rhoddodd ddelweddau i fi o ffotoshoot yr oedd wedi'i wneud ond roedd yn rhaid i fi olygu cryn dipyn o gysgodion ar ei delweddau, a dwi’n credu iddi sylwi bod gen i lygad da am ffotograffiaeth. 

Yn nes ymlaen yn y flwyddyn honno, nath hi ofyn i fi fod yn ffotograffydd priodas iddi. I ddechre, nes i wrthod yn y fan a’r lle a dweud "Na! DIM GOBAITH! ". Nes i feddwl na fydden i’n lico bod ynghanol torf fawr ac na fydden i’n gwybod shwt oedd siarad â grŵp o bobl mewn priodas, a delio â nhw.

Ond, yn y diwedd, nath hi fy argyhoeddi a chynnig ffi i fi am fy ngwaith. Do’n i ddim yn gallu gwrthod achos o’dd dim arian na chamera ’da fi ar y pryd. Yn lwcus i fi, ochr yn ochr â'r gwaith llawrydd, o’n i’n gweithio’n rhan-amser yn Jessops – y siop gamera – ac o’n i’n gallu dysgu am gamerâu, argraffu lluniau a'r ochr gwerthiant hefyd.  

O’n i’n lwcus achos o’dd gyda lot o fy ffrindiau yn Jessops radd mewn ffotograffiaeth. O’dd un ohonyn nhw, Alun, yng nghanol PhD felly odd ’da fi bobl â lot o wybodaeth am ffotograffiaeth o 'nghwmpas i.

O dan eu harweiniad nhw, nes i fuddsoddi mewn Nikon D200 gyda lens 70-300 ychwanegol a fflach, a bant â fi i dynnu lluniau o briodas Angharad a Carwyn!

Roedd diwrnod y briodas yn heulog braf, a’r cyfan yn hamddenol. O’r diwrnod hwnnw ymlaen, cymerodd y ffotograffiaeth drosodd a nes i ddim edrych ’nôl!

Beth wnes i ddysgu o hyn yw bod hyder yn rhywbeth sy'n datblygu gyda phrofiad. ’Nawr, ar ôl blynyddoedd o fod yn ffotograffydd priodasau, dwi ddim yn ofni gweithio gyda thorfeydd o bobl rhagor, a dwi’n barod i wneud i bobl erill deimlo eu bod wedi ymlacio. Yn wir, mae hyn wedi dod yn un o'm pwyntiau gwerthu unigryw, neu USP.

Oni bai am Angharad, dwi wir ddim yn meddwl y byddwn i'n ffotograffydd proffesiynol ’nawr, felly dwi mor ddiolchgar iddi am ei ffydd yn fy ngwaith. 




An introduction to wedding photography 

Angharad Brinn was one of my friends in college and she has a beautiful voice. Around this time - 2007/2008 - she recorded an album and asked me to design her a CD cover. 

She supplied me with images from a photoshoot she had done but I had to edit quite a lot of shadows on her images, and I think she spotted that I had an eye for photography. 

Later that year, she asked me to be her wedding photographer. At first, I point blank said “No! NO WAY!”. I thought that I wouldn’t like to be in the middle of a big crowd, and I felt that I would have no idea how to speak to, and handle, a group of people at a wedding. 

Eventually though, she convinced me and offered me a fee for my services. I couldn’t refuse as I had no money and no camera at the time. Luckily, alongside the freelancing, I worked part-time in Jessops – the camera store – and was able to learn about cameras, photo printing and the sales side too. 

It was a bonus that many of my friends at Jessops had degrees in photography. One of them, a guy called Alun, was in the middle of a PHD so I was surrounded by people with a lot of knowledge about photography. 

Under their guidance, I invested in a Nikon D200 with an extra 70-300 lens and a flash, and off I went to photograph Angharad and Carwyn’s wedding!

On the day of the wedding, it was a wonderful and sunny, and chilled. From that day forward, the photography took over and I didn’t look back!

What I learnt from this is that confidence is something that develops with experience. Now, after years of being a wedding photographer, I no longer fear interacting with crowds of people and I'm confident in making others feel relaxed. In fact, this has become one of my unique selling points.

If it wasn’t for Angharad, I truly don’t think I would be a professional photographer now, so I’m so grateful for her faith in my work




Lluniau Priodas CArwyn ac Angharad - priodas 1af celf calon

Angharad and Carwyn's Wedding images - celf calon 1st wedding

Taith anhygoel hyd yn hyn

Os dwi’n i'n meddwl am y peth, dwi wastad wedi bod ar dân eisiau bod yn weithiwr llawrydd creadigol. Am flynyddoedd, o’n i ddim yn credu ynof i fy hun. Dwi’n ddyslecsig ac wedi fy magu gyda ffrindiau a theulu academaidd iawn o'm cwmpas. Yn anffodus, dwi wastad wedi amau fy hun.

Do’dd dim syniad ’da fi shwt i redeg fy musnes fy hun pan ddechreuais i. Ond, dwi’n credu bo fi’n gwybod yn y bôn y gallwn wneud iddo ddigwydd. Yn fy achos i, nes i brofi mai bod mas o’ch ‘comfort zone’ yw’r hyn sy’n gwneud chi’n gryfach. 

Felly, fy nghyngor i unrhyw un sy'n dechrau eu busnes eu hunain fyddai cofio cael meddwl agored bob amser a bod yn barod i arbrofi, i ddysgu a rhoi cynnig ar bethau newydd. Mae’n bwysig blaenoriaethu cyfleoedd i dyfu a datblygu eich hun. 

Un peth yw bod yn dda yn eich crefft, ond mae cymaint mwy i fusnes na hynny. Mae gallu cyfathrebu a rhwydweithio gyda phobl yr un mor bwysig, felly trïwch beidio â dilyn tueddiadau. Byddwch chi eich hun, yn unigryw. Dyw ffasiwn ddim yn para, dim ond steil. 

Fy nghyngor olaf fyddai sicrhau bod gennych rwydwaith o bobl greadigol o'r un anian yr ydych yn ymddiried ynddynt ac y gallwch gysylltu â nhw, neu gyfarfod â nhw, pan fyddwch yn teimlo bod angen rhywfaint o gymorth arnoch, a’ch bod wedi danto. Mae fy rhwydwaith fy hun wedi bod yn amhrisiadwy.



An incredible journey so far

If I think about it, I've always had a burning desire to be a creative freelancer. For many years, I did not believe in myself. I'm dyslexic and grew up with very academic friends and family around me, and unfortunately, I've always suffered with self-doubt. 

I had no idea how to run my own business when I started up, but I think I knew deep down that I could make it happen. In my case, it’s been proven that being out of your comfort zone is what makes you stronger. 

So, my advice to anyone who is starting their own business would be to remember to always have an open mind and to be prepared to experiment, learn and try new things. Prioritising self-growth and self-development is important. 

Being good at your craft is one thing, but there is so much more to business than that. Being able to communicate and network with people is just as important, so try not to follow trends. Be your unique self. Fashions fade, only style reminds the same. 

My final bit of advice would be to make sure you have a network of like-minded creatives who you trust and can contact, or meet up with when you feel burnt-out and need some support. My own network has been invaluable. 



Dathlu 15 mlynedd o Ffotograffiaeth Celf Calon

Felly, dyna fy stori i! Diolch am ddarllen!

Alla i wir ddim credu fy mod wedi bod yn ffotograffydd proffesiynol ers 15 mlynedd. 

Y peth gorau amdano yw bod fy ngwaith i drwy gyfrwng y Gymraeg 95% o’r amser, a dwi'n gallu cael gyrfa o ddarlunio bywyd Cymreig heb orfod symud dros y bont. 

Mae hyn yn golygu cymaint i fi, a’r uchafbwynt yn ystod y pandemig yw bod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi prynu casgliad o'm gwaith. Dyma uchafbwynt gyrfa a dwi’n edrych ymlaen at weld beth fydd nesa’!

Darllen cysylltiedig: Fy arddangosfa ffotograffiaeth gyntaf

Celebrating 15 years of Celf Calon Photography 

So, that’s my story! Thanks for reading!

I can’t honestly believe I’ve been a professional photographer for 15 years. 

The best thing about it is that 95% of the time, my work is through the medium of Welsh and I’m able to have a career in capturing Welsh life without having to move over the bridge. 

This means so much to me, and the highlight coming out of the pandemic is that the National Library of Wales has bought a collection of my work. This is a career highlight and I’m looking forward to seeing what will come next!

Related reading: My first photography exhibition

Hoff ddelweddau o'r 15 mlynedd diwethaf

Nawr, dwi'n gobeithio y byddwch chi'n mwynhau'r delweddau dwi’n eu rhannu yma. Maen nhw’n cynnwys rhai o fy hoff ddelweddau o'r 15 mlynedd diwethaf a’r rhai a ddewiswyd gan rai cleientiaid, ynghyd â'u geiriau caredig. Diolch i chi gyd am eich geiriau caredig iawn am fy ngwaith ma'n meddwl y byd. A diolch hefyd i fy ngheileintiau hen a newydd am yr holl anturiaethau papo ar draw y wlad.



Croeso i chi cysylltu â fi os oes gennych brosiect ffotograffiaeth sydd ar y gweill y credwch y gallwn fod yn addas ar ei gyfer. Byddwn wrth fy modd yn clywed gennych! 

Favourite images from the past 15 years

Now, I hope that you enjoy the images I’m sharing here. These include some of my favourite images from the past 15 years plus those chosen by some of my clients, along with their kind words.

Thank you to all for taking the time to contribute to this blog it really appreciated. And big thanks stop all my past and current clients for all my photoshoot adventures around Wales.


Feel free to contact me if you have an upcoming photography project that you think I might be suitable for. I would love to hear from you! 

Y Selar

https://selar.cymru

Mae wedi bod yn bleser gweithio gyda Celf Calon dros y blynyddoedd, a gobeithio fod Y Selar wedi chwarae rhan yn hanes llwyddiant y fenter. Y peth gorau am weithio gyda celf calon, yn enwedig i rywun sydd ddim yn artistig a gyda llygad dda am gelf gweledol, ydy pa mor rhwydd ydy pa mor rhwydd ydy hi i ddelio gyda Betsan. Ydy, mae’n gallu gweithio’n dda i friff, ond mae hefyd yn wych am weld beth sydd angen dros ei hun. Mae pob shoot a gomisynwyd i’r Selar wedi gweithio’n ardderchog, ac mae ei chael fel ffotograffydd Gwobrau’r Selar dros y blynyddoedd wedi gwneud bywyd yn hawdd - ma hi jyst wedi bwrw mlaen gyda’r job a darparu gwasanaeth o’r safon uchaf pob tro. Pen-blwydd hapus iawn i Celf Calon!

"Llun da o fand ifanc oedd wir yn mwynhau eu noson fawr yng Ngwobrau'r Selar. Mae gwaith celf lliwgar Dili Pitt ar gyfer y gwobrau'n ychwanegu at y llun hefyd." Sgiv, Y Selar

"Llun sy'n dal gwallgofrwydd cefn llwyfan y Gwobrau. Mae 'na gymaint yn digwydd yn y llun yma...Swnami, Gwyn Eiddior, Huw Stephens, Griff Lynch a cwpl o bobl hollol randym!" Sgiv, Y Selar

"Y dorf sy'n gwneud gig, ac mae'r llun yma'n dal torf Gwobrau'r Selar i'r dim." Sgiv, Y Selar

"Rhestr fer 'Cyflwynydd Gorau' Gwobrau'r Selar 2015. Roedd Huw Stephens a Lisa Gwilym yn gwbl gyfartal yn y bleidlais...ond roedd Dyl Mei druan yn mynd adre'n waglaw. Ond o leiaf cafodd y anrhydedd o gyflwyno'r noson." Sgiv, Y Selar

"Mae 'na sawl llun da o Yws Gwynedd yn y Gwobrau, ond mae hwn yn un clyfar o'r cerddor gyda'i wobr 'Fideo Gorau 2016' am y sengl 'Sgrin'. " Sgiv, Y Selar

Rhai o fy hoff lluniau a momentau Y selar

Mae cylchgrawn Y Selar yn chware rhan sbesial iawn yn fy ngyrfa i fel ffotograffydd. Gan fy mod wedi bod mewn bandiau ers yn 18 mae'n tynnu lluniau bandiau yn rhoi'r ru'n wefr a fi a bod ar y llwyfan. Wrth edrych nol dwi wedi sylwi fy mod i wedi tynnu lluniau o aelodau o bandiau sydd yn y gynudlleidfa ac yna yn sydyn reit mae nhw'n cyrraedd y llwyfan ac yna'n mewn bandiau blaenllaw y Sin Roc Gymraeg ac erbyn hyn wedi cyrraedd Glanstonbury 2022 sy'n profi bod cylchgrawn a gwobrau'r Selar yn platfform pwysig iawn i bandiau Cymraeg.

Angharad Jenkins

Dwi’n berson eitha swil o flaen y camera credwch chi neu beidio! Ond pan mae’r ffocws ar rhywbeth arall, dwi’n llawer hapusach. 

Y ddau lun dwi ‘di dewis yw ohona i, a fy mabis. Yr un gyntaf yw ohona i a fy mabi cyntaf sef y ffidil yn fy mreichiau ar ben bryn yn Mayhill, yn edrych i lawr ar Abertawe. 

Gwnes i rhoi fy het ar ben a ffidil, a rhoi fy mraich o gwmpas yr offeryn, fel taswn i’n cofleidio hen ffrind. Ac mae’r ffidil yn ffrind i fi. Dwi wedi cael anturiaethau di ri yn teithio’r byd gyda hi yn fy llaw (a dan fy ngen!) 

A’r llall, fy mabi go iawn cyntaf, yn fy mol - yr un nest ti son am ohona i yn neidio lan!

On i llawn cyffro ac egni am rhoi genedigaeth am y tro cyntaf. Ges i beichiogrwydd cymharol rhwydd, ac roeddwn i’n edrych ymlaen ac yn barod i herio’s pennod nesaf yn fy mywyd fel Mam. Mae’n nodi trobwynt enfawr yn fy mywyd personol. Doedd bywyd byth yr un fath ar ôl i’r llun yma gael ei gymryd!


A dyma rhai o fy uchafbwyntiau i o Angharad fel cerddor ac Angharad fel mam

"This one has pride of place as you come into the building. That session we took 15 wheelchair users surfing. It really shows our community and that amazing things are possible when people work together. We have such a selection of people in the picture, all different ages and backgrounds, coming together because they believe everyone should be able to get radical! Thanks to Betsan from Celf Calon photography, we are spoilt for choice when choosing gorgeous photos to use on our website." Ben, Surfability

Kirsty & Dan

Thank you for capturing all of these precious memories which we will cherish for a lifetime!

“Too soon!” - The moment I said “I will” all too prematurely during the vows... still enthusiastic and eager after 8 and a bit years of long distance. We will always have a good laugh at this moment :) "

“The union of families” - We were ultimately lucky to have as many of our loved ones attend our day who travelled from far and wide. After two years of lockdowns, travel restrictions, lost loved ones and so much uncertainty, love prevails x

“Wise sailor” - This picture means the world to me as we were lucky enough to have my grandfather not only attend amidst the chaos of covid uncertainty, but to give a speech with honest heartfelt advice with regards to life and love. He is the reason for my love of the sea, music, books and poetry and I will forever cherish this picture. He turned 90 this year! Just shy of a week before our 1st wedding anniversary. Still going strong at the head of the family. We love you Gramps!"

“Cake is life!” - Capturing the shot of me stuffing as much cake as possible into my husband’s mouth whilst he was still brandishing the cake knife is testament to my husband’s levels of patience and sweetness (and my levels of bravery!). May we annoy each other like this for the rest of our lives and not kill each other in the process! :D Thank you for capturing all of these precious memories which we will cherish for a lifetime!

“Time to reflect” - With the madness of merging our lives together by tying the knot, here we were able to have a moment of calm and some time to reflect on the whirlwind that just happened in no time at all! Ironically with a clocktower in the background! We both appreciate beautiful architecture and both love this image so much! "

Lleuwen

Yr hyn sydd fwyaf arbennig am luniau Betsan yw ei gallu i ddal cyfnod. Wrth iddi dynnu llun, mae’n ymwybodol, rhywsut, o werth tymor hir y lluniau. Fel petai hi’n medru gweld sut fydd y llun yn edrych o’r dyfodol. Mae ganddi luniau ohonaf yn y coleg, mewn gigs, sioeau, gŵyliau. Mae ganddi luniau ohonaf yn feichiog a lluniau o fy mhlant yn fabis. Gyda’r plant, ar y pryd, doeddwn i ddim yn sylweddoli pa mor werthfawr fyddai’r lluniau hyn imi yn y dyfodol. Ym mhrysurdeb mawr y foment, doedd gen i ddim amser i bendroni am gyngor a clichés fy anwyliaid am amser yn gwibio... 

Mae’r lluniau ohonaf yn feichiog yn hynod bwysig i mi. Yn f’atgoffa o fwynhad fy meichiogrwydd. Cyfnodau bodlon iawn oedd beichiogrwydd i mi. Roedd rhywbeth am yr hormonau oedd yn tynnu unrhyw straen allan o bethau bach fel perfformio a rhoi sioe. Roedd gigs beichiog yn hamddenol, braf fel canu i ffrindiau yn fy stafell fyw. Mae’r babi oedd yn fy mol yn ystod y gig hwn bellach yn hogyn 10 oed sydd hefyd mor werthfawrogol o’r lluniau hyn sydd wedi llwyddo i ddal cyfnod mor arbennig yn ein bywydau.

Fflur Dafydd

Mae’r llun yma ohona i a fy merch ieuengaf Luned yn dal i’r dim y berthynas rhyngom ni - mae Luned wastad wedi bod yn dipyn bach o gorwynt egniol, ac anaml oedd hi’n eistedd yn llonydd fel plentyn, felly mae’r llun yn dal adeg fach ddistaw, arbennig iawn, lle ry’n ni’n agos-agos at ein gilydd ym mhob ystyr - dwi’n edrych arni mewn syndod, ond eto yn llawn rhyfeddod, ac mae hi fel petai hi yn edrych arna i yn yr un ffordd, ac mae ‘na rhyw ddealltwriaeth dieiriau yma ein bod ni ynghlwm â’n gilydd, nad oes modd i un fodoli heb y llall, a bod y cariad rhyngom ni yn gwbl ddiamod. Yn y cyfnod cynnar yma o famolaeth, prin Iawn oedd y lluniau ohona i fel mam, er yr holl luniau niferus o’r plant sydd ym mhob man, felly mae’r llun yma yn drysor - a Betsan wedi llwyddo i ymlacio pawb digon nes ein bod ni gyd yn actio’n gwbl naturiol, heb rhoi unrhyw fath o wên ffals mlaen i’r camera, ond dim ond yn ymddwyn fel petai neb yn ein gwylio ni.


Fflur Dafydd

This picture of me and my youngest child is very special to me. Luned has always been a bundle of energy, and I spent most of her early years chasing her around, and so this captures a rare moment of stillness between us, where it seems that we are both registering our closeness and bond - I am looking at her full of surprise and wonder, as if I am only just realising that she’s mine, and she’s looking back at me in the same way. I like to think there’s also a realisation here of our deep, unconditional love for each other. There are very few photos of me during these early years of the children’s lives, and so this is a real treasure - and because Betsan had made everyone feel at ease during the shoot, these moments came to the fore quite easily, as if we had all completely forgotten there was someone else in the room with us.

Fi a Fflur

Mae cyfeillgarwch Fflur a finne yn mynd nol mor bell a dyddiau yn Ysgol Dyffryn Teifi nol yn yr 90au. Erbyn hyn rwy'n falch iawn ein bod ni dal mewn cysylltiad yn gallu gweithio'n broffesiynnol ac yn bersonol. Mae gen i barch ac edmygedd mawr at waith creadigol Fflur a dwi wastad yn teimlo'n falch iawn fy mod i yn gallu chware rhan bach o hybu ei gwaith proffesiynol nawr ac yn y man. Ers 2013 mae'n draddodiad i neud sesiwn lluniau cardiau Nadolig. Pob mis Tachwedd neu Rhagfyr yn ddibynol ar brysurdeb gwaith y dwy ohoni ni, fi wedi bod yn mynd i'w chartref i dynnu lluniau o'i phlant er mwyn creu carden Nadolig. Mae hwn yn sesiwn teulu anarferol iawn gan ei fod yn hollol hamddenol a chyfle i'r plant fynd yn hollol wyllt yn fy nghwmi. Dwi ddim yn meddwl byse'r fath hyn o shwt byth yn gweithio os nag oeddem ni'n gymaint o ffrindiau. Ni bob amser yn chwerthin tan bod ein boliau'n dost a phan dwi'n golygu'r lluniau dwi wastad yn chwerthin mas yn uchel. A nawr dyma gyfle i fi arddangos cyfres o'r gwallgofrwydd. Hefyd dyma ambell i hoff lun proffesiynol dwi wedi cymeryd ohoni hi a'i gwaith gwych fel awdures.

Anna a Rhydian (squids)

Dewison ni Celf Calon oherwydd bod y busnes yn un Cymraeg, ac mi oedd yn bwysig i ni gael siaradwr Cymraeg yn rhan o'r diwrnod. Mae Betsan hefyd yn ffrind ar ol chwarae mewn band gyda Rhydian flynyddoedd yn ol. Mae gwaith Betsan a'i steil ffotograffiaeth yn apelio i ni - mi oedden ni'n chwilio am luniau anffurfiol o'r diwrnod a naws ychydig yn boho. Mi oedden ni yn a dal yn, andros o falch a hapus gyda'r lluniau. Rydym ni dal yn edrych arnyn nhw rwan, yn enwedig i ddangos i'n tair merch.

Anna a Rhydian (squids)

We chose Celf Calon because it is a Welsh business through and through, it was important to us to have a Welsh speaker as part of the day. Betsan is also a friend of Rhydian since they played in a band together years ago. Betsan's work and her photography style appealed to us - we were looking for an informal style and a boho atmosphere. We were, and still are very pleased and happy with the photos. We still look at them now, especially to show to our three daughters.

Anna a Rhydian (Squids) Dewison ni’r llun mawr o bawb yn y briodas yn un gan ei fod yn epig o lun, ac y llun pwysicaf i ni o’r diwrnod. Yn ail mi oedd o’n goblyn o drafferth i gael pawb yn y llun gan eu bod nhw gyd mor brysur yn joio’r coctels cyn dod at ei gilydd!


We chose this large photo of everyone in the wedding as it’s such an epic photo, and our most cherished from the day. Secondly it wall incredibly difficult to get everyone into the photo as they were all enjoying the cocktails a bit too much before coming together!

Yr ail lun dewison ni gan ei fod yn cofnodi amser arbennig yn ein cyfnod – tri brawd, wedi cael tri plentyn o fewn misoedd o’i gilydd ac mae’r llun yma yn dangos a dathlu hynny ar y diwrnod.


The second photo we chose as it records a special moment in time - three brothers, having had three babies within a few months of each other, and this photo captures and celebrates that on the day.

 Y trydydd llun yn dangos Anna yn chwerthin wrth i Rhydian neud ei araith o. Dal i chwerthin hyd heddiw, a mi wnaeth Betsan ddal moment dda yn fan hyn.

The third photo shows Anna laughing as Rhydian is doing his speech. We are still laughing today, and Betsan caught a really good moment here.

Pedwerydd llun yw ein teulu bach ni ar y pryd, erbyn mae dwy ferch arall wedi adio i’r mix. Mi oedd Ela ein merch gyntaf yn 5 mis oed yn ein priodas a Moi y ci yn dair. Mi oedd o mor bwysig I ni bod y briodas yn un teuluol, gyda digon o blant a hwyl, meddwl bod y llun yma wedi dal hynny.


The fourth photo captured our little family as it was then, we now have two other daughters in the mix. Ela our first daughter was only 5 months old at our wedding, and Moi was three. It was very important to us that our wedding was a family affair, with plenty of children and fun, and I think this photo shows that.

Llun pump yw Sion brawd Anna – moment arall yn dal y diwrnod. Dydi rhywun byth rhy hen i joip losin!


Photo 5 is of Anna’s brother Sion - another fleeting moment captured on camera. No ones ever to old for sweets!

Y llun olaf ydi o Anna gyda’i nain Bryncrug, Agnes. Erbyn hyn mae Nain Bryncrug wedi marw ac felly mae’r llun yma yn cofnodi moment sbesial ar y diwrnod. Mae’n dangos sut mae llun yn gallu cael ystyr newydd dros amser, a pha mor bwysig ydynt wrth gadw y rhai rydym yn ei garu yn fyw ac mewn cof.


The final photo chosen is of Anna with her Nain Bryncrug, Agnes. Unfortunately Nain Bryncrug is no longer with us, so this photo captures a special moment in the day. It also shows how photos gain new meanings over time, and are so important for keeping our memories of loved ones alive.

Non Parry

Pan natho ni gysylltu a Bets I dynnu llunie i hyrwyddo ymgyrch crysau t Paid a Bod Ofn I godi arian i wefan iechyd meddwl Meddwl.org daeth hi’n garedig iawn heb codi tâl am ei gwaith.❤️


Dwi’n caru’r llun yma achos mae’n cofnodi ymgyrch mae’r dair ohonan ni mor mor falch ohono. Diolch Bets ti’n seren ( seren caredig iawn! 🌟)

Hoff lun fi Emma a Rachael ERIOED! Mae Betsan wedi dal eiliad mor MOR sbesial or dair ohonyn ni ar ddiwedd ein set ni yn perfformio hefo Cerddorfa’r Welsh Pops yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst. Roedd y gig yma yn HIWJ uchafbwynt i ni a mae hynna’n amlwg yn y llun! A mae’r llun wedi dal maint cariad a cyfeillgarwch sydd rhyngthon ni. Sbesial iawn Bets!

Pan o’n i angen clawr i’r llyfr Paid a Bod Ofn, dim ond Betsan odd gen I mewn golwg i gymryd y llunie! Dwi’n aml yn anghyfforddus iwan yn cael tynnu’n llun yn enwedig ar ben fy hyn ag o’n i’n gwybod bydde Betsan yn neud pethe gymaint yn haws I fi gan bod hi MOR LYFLI! Dwi’n rili loicio’r llun yma ohona’i ar cownter y gegin achos dwi’n edrych mor hapus oherwydd dwi yn fy hoff le…adre yn ganol y llanast!

Angharad Morgan

Pam dewis Betsan? Wel, roeddwn i ar fin rhyddhau EP nol yn 2006 ac roedd Bets yn gwneud y gwaith celf am y clawr. Gofynnais iddi a byddai’n fodlon cymryd y lluniau priodas. Roeddwn i a Carwyn, y gwr, yn ymwybodol bo Bets yn un da am dynnu llun, ac yn meddwl bydde hi’n berffaith. Roedd Bets yn ansicr i ddechrau ac yn gweld e’n bwysau cymryd lluniau mor bwysig, ond roeddwn ni’n dau yn hollol ffyddiog ynddi. Roedd Bets yn ffab ar y dydd ac roeddwn ni mor hapus gyda’r lluniau. Dwi mor mor falch ein bod ni wedi gofyn a bo Bets wedi cytuno. 8 mlynedd ar ol y priodas, daeth Betsan nol i dynnu lluniau o Tesni fach yn fabi. Caru’r lluniau yma hefyd. Llun arall dwi’n caru oedd un o Mali, y merch hynaf, a Tess. Gwnaeth Bets cynnig gwneud shoot i ni i ddathlu ein 10fed pen-blwydd priodas.

❤️ naws.

Tess yn edrych mor hapus ac yn annwyl.

Cariad Mam a merch

Y llun yma yn toddi fy nghalon. Fy mabans

Llinos Haf

Rydw i wedi bod yn lwcus iawn i gal Celf Calon yn tynnu lluniau o fi mewn amryw o sefyllfaoedd gwahanol, o gig’s Tŷ Tawe, priodasau ffrindiau, Gwyl Croeso a yr in sy’n sefyll mas mwyaf yw lluniau babi Mabon, y mab.

Mae mor hawdd i gal Betsan yn tynnu lluniau, mae’n neud i chi deimlo mor gyfforddus, a ddim yn rhuthro dim byd.

"Diolch enfawr i ti am luniau Mabon a ni fel teulu, bydd rhein gyda ni i drysori am byth." Llinos Haf